Cynhadledd Biosffer Dyfi 2004

Adroddiad o'r gynhadledd

Ym mis Mehefin 2004, trefnwyd cynhadledd gan ecodyfi ar destun Gwarchodfa (neu Ardal) Biosffer Dyfi.

Y prif noddwyr oedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, gyda chymorth gan Awdurdod Datblygu Cymru.

Ceir cyflwyniadau a draddodwyd yn y gynhadledd, a gwybodaeth gysylltiedig, yn y fân wefan ar www.ecodyfi.org.uk/biosphereproject/.

Cyflwynir crynodeb o'r trafodion yn rhan (B) isod ac mae dogfen Cwestiynau Cyffredin ar gael ar wahân i hyn.

A) CRYNODEB O'R BROSES

1. Cynhaliwyd y gynhadledd ar Fehefin 9fed - 11eg 2004 ym Machynlleth.

  • Roedd yn cynnwys yr elfennau canlynol:
  • 1 Dydd Mercher Mehefin 9fed: cyfarfod cyhoeddus gyda'r nos yn y Tabernacl
  • 2 Dydd Iau Mehefin10fed: seminar drwy'r dydd yng Ngheltica
  • 3 Dydd Gwener Mehefin 11eg: teithiau maes o gwmpas yr ardal

2. Roedd pum nod i'r gynhadledd:

  • 1 Edrych ar gynhwysiad cymunedol mewn rheoli tir a datblygu cynaliadwy ar raddfa tirlun
  • 2 Galluogi i gymuned Dyffryn Dyfi ddysgu o brofiadau Gwarchodfeydd Biosffer eraill
  • 3 Cynyddu diddordeb lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd yn Nyffryn Dyfi drwy i'r fro fod yn esiampl i bawb o ddatblygu cynaliadwy
  • 4 Creu cysylltiadau rhwng pobl leol, cyrff amgylcheddol, cynghorau, tirfeddianwyr, sefydliadau academaidd a Gwarchodfeydd Biosffer Ewropeaidd
  • 5 Ysgogi momentwm newydd yn y gwaith o adolygu Gwarchodfa Biosffer Dyfi

3. Mae ecodyfi o'r farn y cyflawnwyd y nodau hyn.

Cafwyd niferoedd da yn y digwyddiadau ac roedd y cynnwys o ran gwybodaeth yn ardderchog yn ddieithriad.

Yn benodol:

  • Mynychodd tua 80 o bobl leol y cyfarfod cyhoeddus, a chefnogwyd cadarnhau'r dynodiad gyda therfynau estynedig â mwyafrif llethol.
  • Daeth 65 o bobl i'r seminar ac unwaith eto mynegwyd cefnogaeth gref. Ymysg y rhai oedd yno, roedd cynrychiolwyr llawer o'r cyrff a'r grwpiau rhanddeiliaid y bydd eu cyfraniad gweithredol yn hanfodol os yw'r dynodiad i wireddu'r potensial i ddod â budd i'r dyffryn.
  • Cafwyd gan y siaradwyr o'r Almaen a'r Swistir ysbrydoliaeth ac enghreifftiau ymarferol o'r modd y bu eu hardaloedd ar eu hennill yn sgîl y dynodiad.
  • Mae'r digwyddiad wedi braenaru'r tir i alluogi i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac ecodyfi sefydlu'r partneriaethau hanfodol sydd i gwblhau'r gwaith adolygu drwy gynnwys y gymuned leol mewn ymgynghoriad mwy trylwyr.

4. Dysgwyd nifer o bethau pwysig yn sgîl y gynhadledd, yn eu mysg:

  • Bod llawer o bobl leol o'r farn bod gwarchod amrywiaeth ddiwylliannol (yn ein hachos ni, y Gymraeg a'r diwylliant sy'n perthyn iddi) yr un mor bwysig â gwarchod bioamrywiaeth
  • Bod cysyniadaeth Gwarchodfeydd Biosffer yn ddigon eang i gynnwys hyn, ac y byddai UNESCO yn ystyried gwaith ar yr agwedd hon yn gyfraniad i'w groesawu i'r profiad sydd ar gael i'r rhwydwaith byd-eang o Warchodfeydd Biosffer
  • Bod amheuon gwreiddiol oedd gan rai tirfeddianwyr a charfanau eraill â diddordeb wedi'u trawsnewid yn gefnogaeth weithredol ar gyfer mentrau a ddatblygwyd o ganlyniad i'r dynodiad
  • Bod y dynodiad ar ei fwyaf effeithiol fel cyfrwng i ddatblygu pan fo'n gallu integreiddio â strategaethau eraill, yn enwedig rhai ar gyfer datblygiad economaidd a thwristaidd.

5. Gwendidau'r gynhadledd oedd y canlynol:

  • Er fod gan DEFRA gynrychiolaeth a bod Aelod o'r Cynulliad yn bresennol fore Iau, ni fu modd i unrhyw swyddogion o'r Cynulliad Cenedlaethol ddod oherwydd ymrwymiadau blaenorol
  • O ystyried y rhan hanfodol sydd i reolwyr tir mewn Gwarchodfeydd Biosffer llwyddiannus, nid oedd cynrychiolaeth ddigonol o ffermwyr lleol yn y gynhadledd.

Yn yr un modd, ni lwyddodd y digwyddiad cyhoeddus i ddenu gymaint â'r gobaith o bobl oedd yn newydd i ecodyfi a chysyniadaeth Gwarchodfa Biosffer.

Mae hyn yn arwydd bod angen ymdrechion mwy dyfal i gynnwys y gymuned gyfan.

B) CRYNODEB O'R TRAFODION

1. Cyfarfod cyhoeddus

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Tabernacl, Machynlleth ar Ddydd Mercher, Mehefin 9fed 2004.

Y diben oedd cyflwyno gwybodaeth a galluogi i bobl a busnesau lleol asesu'r dadleuon sydd ynglyn â pharhad Dyffryn Dyfi yn Warchodfa Biosffer UNESCO.

Ceisiodd y cyfarfod ddangos amrywioldeb y posibiliadau a ddaw i bobl cymunedau'r dyffryn mewn perthynas â'r dynodiad.

Agorwyd y cyfarfod gan ei Gadeirydd, Aled Owen Griffiths, Cyd-Gadeirydd ecodyfi.

Cyflwynwyd crynodeb o sefyllfa bresennol Dyffryn Dyfi a'i asedau gan Charles Arch ac Andy Rowland, ecodyfi, yn cynnwys sylwadau ar bwysigrwydd Afon Dyfi yn nhermau'r tirlun ac i'r rhai sy'n ei reoli.

Yn dilyn hyn, cafwyd rhan dan arweiniad Arfon Hughes a Cyril Evans, Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, oedd yn cynnwys sylwadau ar yr hyn a ddywed y gymuned fyddai'n gwella ansawdd bywyd a disgrifiad o'r drefn ymgynghori.

Yna gofynnodd Andy Rowland, trefnydd ecodyfi, am sylwadau ar lwybrau datblygu posib i'r ardal ac os oedd gan Ddyffryn Dyfi "ragoriaeth gwerthu unigryw" a'i gosodai ar wahân.

Crud twf oedd un disgrifiad a gafwyd o Ddyffryn Dyfi, yn manteisio o gael ynni newydd.

Nodwyd fod gweithredu lleol i wyrdroi newid hinsawdd yn ysgogi sylw cadarnhaol ac y bydd newid hinsawdd yn effeithio'n arw ar rai cynefinoedd lleol.

Awgrymwyd y dylai pwnc tai fforddiadwy fod yn flaenoriaeth ac roedd brwdfrydedd ynglyn â rhwydwaith Hawliau Tramwy wedi'i gynnal yn well.

Cyflwynodd Peter Frost, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y ddadl o blaid dynodiad Gwarchodfa Biosffer ar ei newydd wedd i Ddyffryn Dyfi gan y Cenhedloedd Unedig, a'r budd a'r cyfleoedd a allai ddeillio ohono.

Dangosodd y budd posib ar gyfer Dyffryn Dyfi drwy gyfeirio at esiampl Blaenafon, sydd wedi manteisio o'i ddynodi'n Safle Treftadaeth y Byd.

Yna nododd Peter Frost y caiff Gwarchodfeydd Biosffer UNESCO eu hadolygu bob deng mlynedd ac nad yw Dyffryn Dyfi yn ateb y gofynion oddi ar 1995 gan i UNESCO newid y meini prawf.

Nid yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi a'r aber sy'n ffurfio'r Warchodfa Biosffer bresennol yn ardal ddigon mawr ac nid oes digon o bobl ynddi.

Erbyn heddiw, dynodiad ar gyfer datblygu cynaliadwy yw Gwarchodfa Biosffer, nid cynefin a bioamrywiaeth.

Dywedodd mai dyma'r adeg i ni benderfynu unai nad oes arnom eisiau'r dynodiad bellach neu ein bod am ei uwchraddio gan dderbyn y manteision a ddeuai yn sgîl bod yn ardal â chydnabyddiaeth UNESCO.

Cefnogwyd y ddadl o blaid ailddynodi â chyfraniadau byr gan siaradwyr eraill, yn amlinellu rhai o'r gweithgareddau perthnasol i'r dynodiad sydd eisoes yn digwydd.

Siaradodd Charles Arch, ecodyfi, ar destun garddwriaeth, gan bwysleisio diflaniad yr arfer o dyfu ffrwythau a llysiau yn lleol, a'r mewnforion o'r DU yn fwy cyffredinol a ddaeth yn eu lle.

Awgrymodd amrywiaeth o gynlluniau ac enghreifftiau y gellid eu cyflwyno i adfywio'r diwydiant garddwriaeth lleol gan gloi drwy ddweud bod rhaid newid agweddau.

Siaradodd Peter Jones, rheolwr Celtica, ar ddiwylliant a iaith.

Dywedodd y credai'n bersonol fod 'diwylliant' yn y cyd-destun hwn yn ymwneud â'r Gymraeg a gweithgareddau sy'n seiliedig arni.

Mae'r diwylliant hwn yn ffurfio rhinwedd gwerthu unigryw arall na cheir mohono mewn Gwarchodfeydd Biosffer eraill.

Nododd fod diwylliant brodorol Cymraeg, serch y diwylliant bywiog ac amrywiol a geir yn y cylch, yn cael ei erydu yn sgîl symudiadau poblogaeth a diffyg ymroddiad i ddwyieithrwydd ymysg newydd-ddyfodiaid i'r ardal.

Mae gan y bobl yma gyswllt empathetig â'r amgylchedd naturiol ond maent yn methu ag ymgysylltu'n llawn â'r diwylliant a'r iaith sy'n ffurfio rhan o'r amgylchedd hwnnw.

Yn ddiweddglo, dywedodd bod angen cynnal y Gymraeg ac amrywioldeb diwylliannol yn yr un modd ag ymdrechion llawer o bobl i ddiogelu bioamrywiaeth naturiol.

Traddododd Andy Jeffery, Outward Bound Aberdyfi, gyflwyniad byr ar swyddogaeth gweithgareddau awyr agored yn Nyffryn Dyfi.

Pwysleisiodd natur adloniadol ac addysgol gweithgareddau awyr agored fel ei gilydd.

Credai fod swyddogaeth i'r Warchodfa Biosffer addysgu ymwelwyr ifanc i arfer agweddau cyfrifol a lleihau eu heffaith niweidiol ar yr amgylchedd yn lleol.

Byddai'r swyddogaeth addysgol hon yn cael ei chyflawni gan hyfforddwyr awyr agored sy'n gweithio'n unol â chanllawiau cyrff megis y Gymdeithas Hwylio Frenhinol, Cymdeithas Canwio Cymru a Chyngor Mynydda Prydain.

Mae staff y canolfannau awyr agored yn anhepgor ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o'r ardal a'r diwylliant y maent yn gweithio o fewn iddynt a hyrwyddo'r gwahaniaethau sydd â chefndir diwylliannol ymwelwyr.

Daeth rhan yma'r cyfarfod i ben gyda chyflwyniad gan Syr John Houghton, cyn Gadeirydd y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol, ar y ganolfan ymwelwyr arfaethedig yn Aberdyfi.

Bydd y ganolfan yn ceisio denu 'eco-dwristiaid' i'r cylch ac ennyn diddordeb yr ymwelwyr hynny sy'n bennaf â'u bryd ar y traeth - er mwyn iddynt werthfawrogi ecoleg a threftadaeth lleol.

Yn dilyn y cyflwyniadau derbyniwyd cwestiynau gan y gynulleidfa.

Ar ddiwedd y drafodaeth yma dangosodd pleidlais â dwylo fod mwyafrif llethol o'r bobl oedd yn bresennol yn cefnogi'r broses o sicrhau statws Gwarchodfa Biosffer UNESCO ar ei newydd wedd i Ddyffryn Dyfi.

line Brig

2. Y Seminar

Y diwrnod canlynol cynhaliwyd seminar ar gyfer 60 o bobl yng Ngheltica, Machynlleth.

Roedd yno gynadleddwyr ar ran awdurdodau lleol a chyrff eraill, ac ardalwyr â diddordeb.

Agorwyd gweithgareddau'r dydd gan y Cadeirydd, Syr John Houghton.

Cyflwynwyd Peter Frost, Cyngor Cefn Gwlad Cymru gan Syr John, a rhoddodd ef gyflwyniad ar rôl UNESCO a'r meini prawf newydd ar gyfer Gwarchodfeydd Biosffer.

Argymhelliad adolygiad y DU oedd y dylai Gwarchodfa Biosffer Dyfi fel ag y mae hi ffurfio ardal graidd ar gyfer ardal estynedig fyddai'n cwmpasu dalgylch cyfan Afon Dyfi.

Mae dynodiad cyfoes Gwarchodfeydd Biosffer yn ymestyn y tu hwnt i'r agenda wreiddiol ar gyfer diogelu bioamrywiaeth ac yn cynnwys swyddogaethau, sef datblygu economaidd, gwarchod arferion cymdeithasol a diwylliannol a chefnogaeth gyflenwol ar gyfer addysg.

Ystyrir fod Gwarchodfeydd Biosffer yn cynnig 'labordai byw ar gyfer datblygu cynaliadwy' ac o'r herwydd mae cynnwys pobl a chyfranogaeth rhanddeiliaid yn hanfodol i ddynodiad Gwarchodfa Biosffer.

Maent yn "10% lleoliad 90% trefniant".

Yna amlinellodd Peter Frost y drefn ymgynghori cyhoeddus fyddai'n rhoi gwybodaeth i'r gymuned a'u helpu i wneud penderfyniad rhesymegol wrth ddewis a ddylid gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon cais ymlaen i UNESCO (drwy law Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU).

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru am ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y drefn ymgynghori drwy gyfrwng grwp llywio'n cynnwys awdurdodau lleol ac ecodyfi, a byddai'n talu am gasglu data / y cais.

Yna cafodd y gynhadledd gyflwyniadau ar brofiadau tair gwarchodfa biosffer sydd eisoes yn bod.

Traddodwyd y cyntaf o'r cyflwyniadau yma gan Andy Bell o Warchodfa Biosffer Braunton Burrows yn Nyfnaint.

Dangosodd y modd yr adeiladwyd y biosffer yn ôl egwyddorion datblygu cynaliadwy gan geisio defnyddio'r dynodiad i newid dirnadaeth y cyhoedd a chreu canolbwynt gwybodaeth drwy sefydlu cysylltiadau â darparwyr addysg lleol.

Mae'r canolbwyntio yma ar addysg wedi esgor ar ddatblygiad busnesau amgylcheddol lleol o'r newydd a mwy o falchder lleol yn y cylch.

Manteisiodd yr ardal hefyd drwy ddefnyddio'r dynodiad fel brand i farchnata'r rhanbarth i dwristiaid ac yn gyfrwng i ddenu mwy o adnoddau.

Yn eu hachos nhw, system dwyni yw'r ardal graidd yn bennaf, dan berchnogaeth a rheolaeth y Christie Estate ynghyd â'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae'r Ardal Glustog yn cynnwys Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sydd eisoes yn bod, yr Ardal o Harddwch Naturiol Neilltuol ac ardal yr Arfordir Treftadaeth.

Darperir �350,000 ar gyfer cost flynyddol Gwasanaeth Arfordir a Chefn Gwlad Gogledd Dyfnaint, sy'n cydgysylltu gweithgareddau o fewn y Warchodfa Biosffer estynedig, gan y tri awdurdod lleol.

Cyflwynwyd ail astudiaeth achos y bore gan Doris Pokorny o Warchodfa Biosffer y Rhön yn yr Almaen.

Dangosodd fel y mae dynodi wedi darparu cyfrwng i sicrhau gwelliannau economaidd a chymdeithasol.

Crewyd cynnyrch a marchnadoedd o'r newydd yn sgîl y cydweithio cynyddol a fu rhwng ffermwyr a busnesau, a bu'n fodd i gynyddu budd economaidd lleol i'r eithaf.

Er enghraifft, yn dilyn ymchwil ar fathau brodorol o afalau, bu adfywiad mewn perllannau a chynnyrch newydd yn deillio o afalau .

Gweithredwyr lleol fu'n gwthio'r broses hon ac yn creu marchnadoedd a swyddi newydd a sefydlu hunaniaeth ranbarthol i'r Rhön.

Mae creu labeli o safon, ar gyfer busnesau sy'n defnyddio canran o gynnyrch lleol yn ogystal â nwyddau unigol o fewn sectorau penodol, yn atgyfnerthu'r hunaniaeth yma.

Yn eu hachos nhw, mae'r Ardal Glustog yn cynnwys glaswelltiroedd dan reolaeth lai dwys yn bennaf ac fe'i gelwir yn Ardal Gynhaliaeth er mwyn dangos nad gwarchod yr Ardal Graidd yw ei hunig bwrpas.

Mewn gwirionedd fe'i rhannwyd yn ddwy, gydag Ardal Glustog A yn cynnwys yr ardaloedd sydd â gwarchodaeth statudol (yr un modd ag Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig).

Roedd y trydydd cyflwyniad gan Engelbert Ruoss o Warchodfa Biosffer Entlebuch yn y Swistir.

Esboniodd fod yr ardal ymysg y tlotaf yn y Swistir cyn ei dynodi ac iddi fod â delwedd negyddol ers cyfnod maith.

Cafodd Gwarchodfa Entlebuch ei dynodi yn 2001 a chael ei derbyn yn fuan gan fwyafrif y gymuned leol a chael ymateb cadarnhaol gan y cyfryngau yn y wasg Swisaidd.

Ffurfiwyd pwyllgorau lleol a rhanbarthol a bu rhain yn gymorth i greu cylchoedd arloesi cadarnhaol yn yr economi lleol.

Bu cynnydd yn y mathau lleol o gaws a selsig a gynhyrchir, sydd â brand y rhanbarth arnynt ac yn fodd i hyrwyddo'r ardal i'r byd yn fwy cyffredinol â gastronomeg.

Credai Mr Ruoss fod labeli brand mewn tai bwyta a mannau eraill yn bwysig.

Ceisiwyd a chydlynwyd cyfleoedd twristiaeth newydd hefyd gan reolwyr y Warchodfa Biosffer yn wyneb newid hinsawdd, sy'n lleihau'r gorchudd eira ac yn effeithio ar ddiwydiannau chwaraeon eira.

Mae modd i ymwelwyr drefnu pob elfen o'u hymweliad yn swyddfa'r Warchodfa Biosffer, gan gynnwys gwibdeithiau.

Mae poblogaeth y rhanbarth bellach yn ystyried mai cyfalaf yw natur a'r tirlun, ar gyfer twf economaidd a ffyniant yn y dyfodol.

Daeth mwy o gydlyniant cymdeithasol o'r dynodiad, a sefydlu fforymau cynrychioliadol y gall aelodau cymunedau o ddiddordeb penodol megis helwyr a ffermwyr eu defnyddio i reoli eu sector eu hunain.

Roedd Cydlynwyr wedi gweithio'n galed i sicrhau cymorth "lluosogyddion" ar gyfer trosglwyddo'r genhadaeth, e.e. athrawon, offeiriaid ac arweinyddion cymunedol.

Wrth ymateb i gwestiwn gan y gynulleidfa, dywedodd Mr Ruoss mai tua €1 miliwn oedd costau rheoli Gwarchodfa Biosffer Entlebuch ond fod y warchodfa'n cyfrannu gwerth ychwanegol o ryw €2 filiwn i'r rhanbarth.

Cafwyd cyflwyniad gan Peter Harper o'r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn cwmpasu gweithgareddau a chefndir y ganolfan, fu, yn ôl ei ddisgrifiad, yn arloesi ym maes datblygu cyfannol ac yn ysgogi datblygiad yn y rhanbarth o'i chwmpas.

Cred fod y ganolfan ymwelwyr wedi gwthio economi'r rhanbarth, gan hyrwyddo'i delfrydau a'i hamcanion ar yr un pryd.

Cafodd nifer o gwmn�au a chyrff yn deillio ohoni eu meithrin gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen, a bu hwythau'n cryfhau ac ysbrydoli'r economi lleol.

Tybir y bydd cydweithio pellach ar gynlluniau lleol a mentrau ail-leoleiddio yn rhan o swyddogaeth y Ganolfan yn y dyfodol, yn ogystal â pharhau i gyfrannu i'r drafodaeth sy'n esblygu ynglyn â datblygu cynaliadwy.

Mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ceisio ehangu ei rôl addysgol drwy greu mân-brifysgol fel rhan o'r ganolfan.

Bu cyflwyniad byr gan Chris Edwards, y Comisiwn Coedwigaeth ar rôl ei gorff yn lleol ac yn genedlaethol.

Ers datganoli grym i Gaerdydd, agenda'r Cynulliad Cenedlaethol, perchnogion holl dir y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru, sy'n llywio'r Comisiwn.

Mae'r Comisiwn yn awyddus i feithrin datblygu lleol a helpu i ateb anghenion cymunedau.

Yn Nyffryn Dyfi bu'r Comisiwn yn gysylltiedig â chynlluniau i osod tyrbin gwynt cymunedol ar eu tir, creu llwybrau beicio mynydd yng Nghoedwig Dyfi ac â'r drefn ymgynghori ynglyn â dyfodol eu safle yng Ngheinws.

Mae polisi presennol y Comisiwn Coedwigaeth yn annog rheolwyr lleol i ymgymryd â phrosiectau na luniwyd yn unig ar gyfer cynhyrchu coed.

Roedd y broses o gynnwys rhanddeiliaid mewn rheoli tir gwledig yn gynaliadwy yn destun cyflwyniad gan y Dr. Alister Scott o Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Aberystwyth.

Trafododd bedwar pwynt allweddol ynglyn â chynnwys rhanddeiliaid;

  • Pam cynnwys?
  • Pwy ddylem eu cynnwys?
  • Sut mae ymgysylltu?
  • Sut allwn sicrhau y ceir budd?

Pwysleisiwyd yr angen i gynnal ymchwil trylwyr o fewn y gymuned ac am ymgysylltiad cyflawn gyda rhanddeiliaid ac unigolion oll.

Bydd y berthynas a ddeillia o hyn yn galluogi i gyrff fynegi eu hanghenion o'r cychwyn gan annog parch ac ymddiriedaeth ar y naill ochr.

Nodwyd fod ymgynghori annigonol yn waeth na dim o gwbl.

Mae ymgynghori'n fodd i ganfod materion sy'n destun cytundeb ac anghydfod.

Gwell efallai cael anghytundeb cynhwysol na pheidio â chael unrhyw gyfraniad i benderfyniadau a wneir: amlygu'r gwahanol safbwyntiau neu ni chânt byth eu datrys.

Esboniwyd y broses o gynnwys a'r materion allweddol a amlygwyd yn flaenorol drwy gyfeirio at esiamplau penodol, Cynllun Datblygu Unedol Ceredigion, Ymlaen Ceredigion a Phrosiect Tarka yn Nyfnaint.

Daeth cyflwyniadau'r bore i ben gydag Andy Swash, Cadeirydd Pwyllgor Dyn a'r Biosffer y DU, sy'n gweithio i DEFRA.

Dywedodd fod cyfrifoldebau'r Pwyllgor yn cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a datblygu cynaliadwy a meithrin galluoedd o fewn i wyth Gwarchodfa Biosffer y DU.

Bydd proses adolygu nesaf y Pwyllgor yn digwydd yn 2007 ac awgrymodd y byddai'n creu targed addas ar gyfer cadarnhau dynodiad Gwarchodfa Biosffer Dyfi ar ei newydd wedd.

Yna amlinellodd y drefn ymgeisio drachefn, ymgynghori lleol i ddechrau yna drwy'r Cynulliad Cenedlaethol, Pwyllgor Dyn a'r Biosffer y DU, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig, a'r Swyddfa Dramor gan arwain at ddynodi ffurfiol gan Bwyllgor Cydgysylltu Rhyngwladol Dyn a'r Biosffer UNESCO.

Mae dynodi'n ddibynnol ar dri phwynt allweddol;

  • A yw'r ymgeisydd yn deall cysyniadaeth Gwarchodfeydd Biosffer?
  • A yw rhaniadau'r ardal a'r broses a esgorodd arnynt yn amlygu hyn?
  • Sut fydd y Warchodfa Biosffer yn gweithio? Mae materion yn ymwneud â'r fframwaith rheoli a pheirianweithiau cyfranogi lleol yn deillio o hyn.

line Brig

I ganlyn cafwyd sesiwn holi ac ateb fer a nodwyd yma fod dwy ran o'r gymuned ill dau'n tueddu i gelu daliadau cryfion rhag y llall rhag ofn iddynt eu brifo - siaradwyr Cymraeg o achos "Mwynder Maldwyn" a'r garfan werdd oherwydd eu cwrteisi.

Cafwyd cyfres o weithdai yn ystod sesiwn y pnawn, a roddai gyfle i'r cynadleddwyr ystyried y cyfleoedd (a'r bygythiadau) cysylltiedig â phynciau penodol a thrafod sut y gallai Gwarchodfa Biosffer estynedig effeithio ar y rhain.

Y themâu a astudiwyd yn y gweithdai oedd;

  • Twristiaeth
  • Diwydiannau ynglyn â'r tir
  • Diwylliant
  • Ymwneud pobl â natur

Trafodwyd allbynnau'r gweithdai hyn a'r ffordd ymlaen yn ddiweddarach ymysg y grwp cyfan mewn sesiwn dan arweiniad Andy Swash.

Nodwyd y gallai fframwaith rheoli gwirfoddol o'r math yma gael ei golli pe na bai'n cydblethu'n uniongyrchol â'r strategaethau niferus eraill perthnasol i'r cylch e.e.

strategaethau cymunedol, strategaethau twristiaeth a Chynllun Gofodol Cymru, sydd i'w gyflwyno.

Dywedwyd hefyd y dylid mynd i'r afael â llawer o faterion a grybwyllwyd yn ystod y gynhadledd, bwrw ymlaen gyda dynodi'r Warchodfa Biosffer ai peidio.

Mynegwyd pryder y gallai cyrff statudol hwyluso sefydlu fframwaith rheoli ond yna rhoi costau cydlynu dilynol ar ysgwyddau busnesau.

Atebodd Peter Frost gan ddweud y rhagwelai y byddai Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn parhau i roi cefnogaeth ar gyfer aelod o staff ond y byddai rhaid i unrhyw aelodau eraill o'r tîm gyfiawnhau eu costau yn nhermau incwm a enillwyd.

Dywedodd Mr Ruoss bod ryw draean o incwm tîm Entlebuch yn enillion, gyda'r gweddill yn deillio'n gyfartal o arian cyhoeddus ar gyfer gwarchod byd natur a diwylliant (gan y wladwriaeth) a datblygu economaidd (gan y Canton).

Casgliad Syr John Houghton oedd y bydd rhaid wrth astudiaethau cost a budd i ganfod a fydd y gwerth ychwanegol a geir yn yr ardal yn fwy na'r buddsoddiad.

Daeth y Gadair, Syr John Houghton, â'r gynhadledd i ben gyda chrynodeb o drafodion y dydd.

Dywedodd bod angen i Gynghorau Powys, Gwynedd a Cheredigion ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gefnogi'r broses ar y cyd yn ogystal ag yn unigol.

Mae angen iddynt ganfod dull o drafod y mater â'i gilydd; felly hefyd, y Cynghorau Tref a Chymuned.

Mae angen gweithredu cydgysylltiedig ar y broses er mwyn cysylltu llywodraeth a chyrff lleol.

Wrth ddiolch i Gyngor Cefn Gwlad Cymru am ariannu'r gynhadledd, nododd y byddai angen iddynt hwythau ddatblygu dulliau newydd o ymgysylltu â phartneriaid, yn eu plith, noddwyr y diwrnod, Awdurdod Datblygu Cymru.

line Brig

3. Taith maes

Aeth bws mini â'r teithwyr i weld nifer o safleoedd penodol ac i ymgyfarwyddo â naws Dyffryn Dyfi rhwng y Borth a Glantwymyn.

  1. Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Fochno Dyfi gyda Mike Bailey, Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae astudiaeth yn cael ei chynnal i edrych ar yr opsiynau rheoli yn sgîl sychu graddol ar y craidd a chodiad tebygol yn lefel y môr. Roedd cloddfeydd archeolegol yn digwydd ar sarn hynafol a groesai gyrion dwyreiniol y gors.
  2. Canolfan Ymwelwyr Ynys-las, twyni tywod ac aber (Gwarchodfa Natur Genedlaethol) - Mike Bailey. Mae'r system dwyni'n erydu yn y pen deheuol ac yn tyfu tua'r gogledd gan geisio ymestyn i'r tir.
  3. Gwarchodfa RSPB Ynys-hir gyda Dick Squires, RSPB. Gwartheg yn hytrach na defaid sy'n cael eu pori ar dir a brynwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
  4. Gosodiadau trydan o'r haul a gwresogi dwr ym Machynlleth. Roedd y teithwyr yn synnu o ganfod bod o leiaf 11 ohonynt erbyn hyn.
  5. Parc Eco Dyfi a safleoedd ailgylchu, Machynlleth
  6. Tyrbin gwynt cymunedol 75 cilowat yng Nghilgwyn gydag Andy Rowland
  7. Y Ganolfan Dechnoleg Amgen drwy Lantwymyn a Machynlleth.

Mark Hebden ac Andy Rowland 5/8/2004