Myfyrwraig leol yn rhoi help llaw i Brosiect Bro’r Biosffer

8th Jun 2007

Mae Ffion Causer, merch o Abercegir sydd newydd gwblhau ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, wedi derbyn ysgoloriaeth gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Bydd Ffion yn gwario pum wythnos yn cyd-weithio gyda Delyth Richards, sef y Swyddog Cyfathrebu â’r Gymuned ar Brosiect Biosffer y Dyfi.

 

Un o’i phrif swyddogaethau fydd gwneud gwaith ymchwil, a fydd o gymorth pe bai’r gymuned yn penderfynu gwneud cais i UNESCO i ail-ddynodi y Dyfi fel Ardal Biosffer ‘modern’.

 

Mae Ardaloedd Biosffer modern yn archwilio’r modd y gall pobl leol fanteisio trwy amddiffyn y pethau sydd yn werthfawr iddynt – gwybodaeth leol, iaith, diwylliant yn ogystal â’r amgylchedd lleol a byd-eang.

 

Mae Partneriaeth y Biosffer wedi cyhoeddi Adroddiad Ymgynghorol sy’n crynhoi barn y gymuned dros y flwyddyn ddiwethaf am y syniad o ddynodi Dyffryn Dyfi fel Bro Biosffer. Maen nhw hefyd yn cynnwys opsiynau am brosiectau, mapiau a syniadau am bwy fyddai’n cydlynu’r rhaglen pe bai’n mynd yn ei blaen. 

 

Mae Ffion yn astudio Daearyddiaeth Ffisegol. Meddai hi, “Mae hwn yn gyfle arbennig i dderbyn profiad yn y maes amgylcheddol, ond yn fwy na hynny mae’n gyfle i mi weithio gan ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn fy ardal leol. Rwy’n datblygu sgiliau a phrofiadau fydd o fantais i mi yn y dyfodol pan fyddai’n chwilio am swydd ar ôl graddio”.

 

Mae’r ddogfen yn cynnwys holiadur byr i’w lenwi. Hoffai’r Bartneriaeth glywed beth yw teimladau pobl, cymdeithasau a busnesau am y prosiect, a derbyn sylwadau am sut i’w ddatblygu. Diwedd mis Mehefin 2007 yw’r dyddiad cau. Mae copïau ar gael oddi wrth 01654 703965, delyth@biosfferdyfi.org.uk a www.biosfferdyfi.org.uk

 

Rhagor o wybodaeth:

Delyth Richards a Ffion Medi Causer, Biosffer Dyfi: 01654 703965

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi: 01654 703965

Aled Griffiths, Cyd-Gadeirydd ecodyfi: 01686 624200 / 01650 511406

Norah W Williams, Swyddog Datblygu Hyfforddiant yn y Gymraeg, Cyngor Cefn Gwlad Cymru: n.williams@ccw.gov.uk 01248 385539

8/6/2007

Nodiadau i Olygyddion:

 

Mae statws Biosffer yn hollol wirfoddol. Ni chyflwynir unrhyw gais i UNESCO heb gefnogaeth gymunedol. Mae’r Bartneriaeth Biosffer yn apelio ar y nifer mwyaf posibl o bobl a sefydliadau i gwblhau’r ffurflen ymateb sydd yn y ddogfen i’w galluogi i asesu lefel y gefnogaeth.

 

Ffurfiwyd Partneriaeth i ymgynghori â thrigolion a busnesau lleol ynglŷn â chyfleoedd Biosffer Dyfi. Yr aelodau yw:

Ø      Cyngor Sir Ceredigion

Ø      Cyngor Sir Powys

Ø      Cyngor Gwynedd

Ø      Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Ø      Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Ø      Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Ø      Llywodraeth Cynulliad Cymru:

o       Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau

o       Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Ø      Ecodyfi

Ø      Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

Ø      Undeb Amaethwyr Cymru

Ø      Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Ø      Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru

Ø      Comisiwn Coedwigaeth Cymru

Ø      Allan Wynne Jones (enwebwyd i ganolbwyntio ar agweddau diwylliannol)

 

Trefnir y broses o gyfathrebu â’r gymuned gan ecodyfi ar ran y Bartneriaeth.

 

Mae Ffion Causer wedi derbyn ysgoloriaeth gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Nod y cynllun yw paratoi profiad gwaith i fyfyrwyr yn y maes amgylcheddol. Ysgoloriaeth a gynigir i siaradwyr Cymraeg yn unig oedd hon, er mwyn annog mwy ohonynt i fynd i weithio yn y maes amgylcheddol.

Main Menu

Contact

Biosffer Dyfi
Ffôn : 01654 703965