Y Fro i ofyn am statws Biosffer newydd

26th Jul 2007

15 mis ar ôl dechrau’r broses o drafod dyfodol statws Bro Ddyfi fel ardal ‘Biosffer’, penderfynodd y Bartneriaeth leol fwrw ’mlaen i baratoi cais i UNESCO.

Gwnaethpwyd rhan fechan o Fro Ddyfi’n ardal ‘Biosffer’ gan UNESCO yn y 1970au – ond nid oes neb erioed wedi defnyddio’r dynodiad hwn i ennill unrhyw wir fanteision i’r ardal. Roedd yn ymwneud â chynefinoedd arbennig a bywyd gwyllt yn unig. Cais fydd hwn i gofrestru ardal ehangach o dan y meini prawf newydd o bobl a byd natur. Bydd yn ymwneud â diwylliant yn ogystal â’r amgylchedd.

Bydd aelodau’r Bartneriaeth yn trafod ymhellach gyda’r rhai perthnasol, i ddatrys materion sydd heb eu penderfynu. Mae’r rhain yn cynnwys peirianwaith ar gyfer cydlynu ac ariannu a rhan rheolwyr tir allweddol.

Mae’r hyn y gall y rhai hynny sy’n ffermio cynefinoedd sensitif ei wneud eisoes wedi’i gyfyngu gan ddeddfwriaeth. Ni fydd cofrestriad Biosffer yn cynyddu dim ar y cyfyngiadau hynny, gan ei fod yn hollol wirfoddol o ran natur. Y gwaith sydd angen ei wneud yw archwilio sut y gellir troi’r cyfyngiadau presennol yn fanteision – er enghraifft, llunio mantais marchnata i gynnyrch o’r tir hwnnw. Peth arall yw chwilio am ffyrdd y gallai cymdeithas dalu am y “nwyddau amgylcheddol” a grëwyd gan reolwyr tir, yn cynnwys rheoli llifogydd a gwarchod cynefinoedd.

Roedd y Ddogfen Ymgynghorol a gyhoeddwyd ddechrau mis Mai yn crynhoi'r hyn a ddywedwyd gan bobl am y syniad hyd hynny a lluniwyd cwestiynau allweddol a dewisiadau mewn holiadur.

Bu Delyth Richards yn gyfrifol am gael pobl i fod yn rhan o’r broses. Eglurodd bod y 160 o holiaduron a gwblhawyd hyd yn hyn yn cynrychioli 7% o’r dogfennau a ddosbarthwyd ac mai dim ond 2 o’r ymatebion oedd yn negyddol. “Mae’n werth nodi na chododd unrhyw sefydliad wrthwynebiad rhesymegol i’r cynnig”, meddai.

Gyda chefnogaeth Cynghorau Ceredigion, Powys a Gwynedd, ynghyd â Pharc Cenedlaethol Eryri, nifer o Gynghorau Tref a Chynghorau Cymuned a chyrff eraill a gofnodwyd eisoes, teimla’r Bartneriaeth Biosffer fod y neges i fwrw ’mlaen yn un glir. Y bwriad yw cyflwyno cais drafft i’r awdurdodau lleol ar ddechrau mis Medi cyn iddo fynd i’r Cynulliad a Llywodraethau’r DG.

Gweledigaeth ‘Biosffer Dyfi Biosphere’ fydd “Y bydd Biosffer Dyfi’n cael ei chydnabod a’i pharchu ar lefel ryngwladol, genedlaethol a lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei threftadaeth a’i bywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei phobl i gyfrannu’n gadarnhaol tuag at fyd mwy cynaliadwy. Bydd yn gymuned hunan-hyderus, iach, ofalgar a dwyieithog, yn cael ei chefnogi gan economi leol gref, 

Mae gan Fiosfferau y fantais o ffiniau hyblyg a ellir eu diffinio mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, y diffiniad daearyddol fydd y tir sy’n draenio i system yr afon Ddyfi; o Lanymawddwy i’r Borth ac o Lanbrynmair i Aberdyfi – a phopeth byw, sefydliadau a busnesau oddi mewn i’r ardal hon.

Yn ail, y diffiniad cyfranogiad fydd y gall unrhyw gorff cyfagos, cymuned neu fusnes, fod yn rhan o’r Biosffer i’r graddau eu bod yn cyfranogi ati ac yn gweithio trwy beirianweithiau cydlynol y Biosffer. Er enghraifft, mae Sefydliad Astudiaethau Gwledig Aberystwyth yn gyfranogwr ar hyn o bryd oherwydd y cynigion ymchwil Biosffer-berthynol a drafodwyd ganddynt gyda’r Bartneriaeth.    

Mae Delyth eisiau i fwy o bobl a sefydliadau gwblhau’r ffurflen ymateb sydd yn y ddogfen neu fynegi’u barn mewn ffyrdd eraill. “Yn sicr, d’yw hi ddim yn rhy hwyr,” meddai. Bydd yn cymryd amser hir i benderfynu ar y manylion, a bydd syniadau ar gyfer y prosiect yn ddefnyddiol ymhell i’r dyfodol.”

Soniodd Delyth hefyd y bydd y digwyddiadau nesaf yn y broses Biosffer yn digwydd yn y Tabernacl ym Machynlleth ar y cyd â Gŵyl El Sueno Existe. Bydd swyddog y llywodraeth sy’n gyfrifol am ardaloedd a warchodir yn Venesuela yn siarad mewn seminar ar “Olew, Tegwch a Biosfferau”, Nos Wener, Awst 10fed, a bydd yn rhoi cyflwyniad eglurhaol am 7.30 y noson flaenorol.

Main Menu

Contact

Biosffer Dyfi
Ffôn : 01654 703965