13 Ionawr 2009
Dywedwyd wrth bump o’r prosiectau a gynhaliwyd dros y gaeaf diwethaf gyda chymorth Biosffer Dyfi y gallant ymestyn eu gwaith. Daw’r arian o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae wedi ei glustnodi ar gyfer gweithgareddau yn ardal Biosffer Dyfi sydd naill ai’n berthnasol i gadwraeth natur neu i newid yn yr hinsawdd.
Bydd Grŵp Gwirfoddolwyr Natur a Chadwraeth, a ffurfiwyd o ganlyniad i grant blaenorol, yn derbyn £800 ychwanegol i dalu am hyfforddiant cymorth cyntaf a sgiliau cadwraeth. Bydd hyfforddiant yn rhan o’r gwaith ychwanegol a ganiatawyd i Grŵp Treftadaeth Llandre, fydd hefyd yn rendro hen adeilad â chalch, codi blychau adar a dylunio arwydd dehongli.
Bydd gwaith cadwriaethol ymarferol yn parhau yn Ysgol Gynradd Machynlleth ac yng Ngerddi Ynyslas, gan gynnwys plannu perlysiau ac amrywiaeth o afalau Cymreig. Yn y cyfamser, bydd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn llunio adroddiad ar y gynhadledd a gynhaliwyd ganddynt yn ymdrin â dyfodol defnydd tir mewn economi di- garbon posibl.
Mae’r £2000 o gymorth grant ychwanegol yn cael ei weinyddu gan ecodyfi ar ran Partneriaeth Biosffer Dyfi ynghyd â’r £875 na chafodd ei wario yn y rownd flaenorol, oherwydd na chafodd un o’r prosiectau ei gweithredu.
© 2007 Dyfi Biosphere