Addysg a hyfforddiant ym Miosffer Dyfi

23 Ionawr 2009

Yn ystod ail hanner 2008, daeth nifer o’r rhai a fu’n cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant ynghyd i archwilio i berthnasedd Biosffer Dyfi a’u gwaith.

Cynhaliwyd gweithdy i ddarparwyr addysg a hyfforddiant ar Hydref 2il 2008 ym Mhlas Dolguog, Machynlleth. Nododd yr adroddiad ("Sharing the message of the Dyfi Biosphere") fod cefnogaeth eang i greu rhwydwaith addysgwyr.

Cynhaliwyd ail gyfarfod ar Ragfyr 9fed 2008. Canfu’r adroddiad (“Defining and delivering the message of the Dyfi Biosphere <http://www.dyfibiosphere.org.uk/u/File/Education%20network/Defining%20the%20Message%20final%20report%20Dec08.doc>e”) dri grŵp gweithredu newydd a gytunodd i ymgymryd â thair ffrwd waith arbennig, i wella darpariaeth hyfforddiant ac addysg ffurfiol ac anffurfiol o fewn ardal Biosffer Dyfi:

1. Gwella’r cynnig addysg ffurfiol.

2. Datblygu cynllun dehongli integredig ar gyfer Biosffer Dyfi.

3. Datblygu cysylltiadau ysgol / fferm, ar gyfer ymweliadau cyson ac ymarferol a dysgu arbrofol yn y dosbarth awyr agored.