Dyfarnu statws unigryw y Cenhedloedd Unedig i Fro Ddyfi

8 Mehefin 2009

Mae’n bleser gan Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, i gyhoeddi heddiw bod Bro Ddyfi wedi cael ei chydnabod yn swyddogol fel unig Biosffer UNESCO Cymru.

Mae’r statws unigryw yn golygu bod yr ardal yn ymuno â mannau fel Uluru yn Awstralia a Mynydd Olympus yng Ngwlad Groeg. Mae 553 o ardaloedd Biosffer UNESCO yn y byd, ond Bro Ddyfi yw’r gyntaf yng Nghymru a dim ond yr ail yn y DU gyfan.

Ardal arbennig yw Biosffer lle mae pobl yn gweithio i gydbwyso cadwraeth bioamrywiaeth â’i defnydd cynaliadwy. Cânt eu henwebu gan lywodraethau cenedlaethol.

speakers_with_certificate_meinir_288

Dywedodd Ms Davidson fod y dyfarniad yn brosiect blaenllaw i Gymru: “Mae’r statws hwn yn anrhydedd mawr i’r ardal ac i Gymru gyfan. Mae Bro Ddyfi’n ymuno â grwp eithriadol o fannau arbennig ledled y byd i bobl a natur. Mae’n enghraifft werthfawr o sut gall cymunedau fyw mewn ffordd gynaliadwy." “Rwy’n gobeithio y gall y statws arbennig hwn gynnig cyfleoedd newydd i’r amgylchedd a’r diwylliant lleol, a chynnig datblygiad economaidd gwirioneddol gynaliadwy.”

Meddai Pete Frost o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, sydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar Bwyllgor Biosffer a UK Man UNESCO: “Bydd bod yn rhan o Rwydwaith Cronfeydd Biosffer y Byd UNESCO yn codi proffil Bro Ddyfi ar y llwyfan byd-eang. Mae’r statws hwn yn gyfle euraidd i ddatblygu economi fyw sy’n seiliedig ar asedau naturiol rhagorol yr ardal, gan ddiogelu’r diwylliant lleol hefyd.”

Cafodd Bro Ddyfi ei dynodi’n Biosffer am y tro cyntaf yn yr 1970au, ond bu’n rhaid i safleoedd wneud cais o dan feini prawf newydd yn yr 1990au. Mae’r penderfyniad heddiw’n golygu bod Bro Ddyfi gyfan, sy’n cynnwys Aberystwyth, Llanbrynmair, Llanymawddwy, Corris Uchaf ac Aberdyfi, yn rhan o Biosffer Dyfi newydd.

Ychwanegodd Allan Wynne Jones o Bartneriaeth Biosffer Dyfi:

“Dros y flwyddyn nesaf, bydd y bartneriaeth yn gweithio’n galed i helpu pobl leol i fanteisio ar y cyfle newydd hwn. Rydym yn gobeithio y bydd trigolion yn defnyddio’r statws newydd i gymryd rhan mewn prosiectau lleol i gynnal yr economi, yr amgylchedd a’r diwylliant lleol." “Ein nod cyffredinol yw i Fro Ddyfi gael cydnabyddiaeth a pharch yn rhyngwladol ac yn lleol, am ei harddwch naturiol, ei threftadaeth a’i bywyd gwyllt, a hefyd am ymdrechion pobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fyd mwy cynaliadwy.”

Dyma ddechrau taith i Fro Ddyfi. Mae manteision Biosfferau’n amrywio o un lle i’r llall, a thros amser.

Llun:

 

Yn dathlu cofrestru Biosffer Dyfi gan UNESCO, tu allan i'r Tabernacl ym Machynlleth (o'r chwith i'r dde)
  • Cynghorydd Dewi Lewis (Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd – Economi a Chymuned);
  • Cynghorydd Wynne Jones (Aelod o Fwrdd Cyngor Sir Powys – Adfywio a Datblygu);
  • Sarah Reast (Machinations o Lanbrynmair);
  • John Lloyd Jones (Cadeirydd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru);
  • Jane Davidson AC (Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai);
  • Andy Bell (Cadeirydd Pwyllgor MAB UNESCO UK)
  • Iolo ap Gwynn (Is-Gadeirydd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)
  • Cynghorydd Keith Evans (Arweinydd, Cyngor Sir Ceredigion)

 

 

Main Menu

Contact

Biosffer Dyfi
Ffôn : 01654 703965