Cyfarfod Cyntaf Biosffer Dyfi

2 Tachwedd 2009

Dydd Mercher, 25 Tachwedd, 6.30pm

Y Plas, Machynlleth

Dewch draw i drafod dyfodol Biosffer Dyfi – dyma’r gwahoddiad sy’n cael ei estyn i drigolion dyffryn Dyfi ar drothwy Cyfarfod Cyffredinol Cyntaf y Biosffer.

Mae pobl sy’n cynrychioli cymunedau lleol, busnesau lleol a mudiadau gwirfoddol yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y prosiect er mwyn sicrhau ei lwyddiant.

Mae gan ddyffryn Dyfi statws unigryw yng Nghymru gan ei fod yn Warchodfa Biosffer UNESCO. Ceir 552 o safleoedd o’r fath drwy’r byd, ac mae pob un wedi’i ddynodi er mwyn ceisio cydbwyso anghenion pobl ag anghenion natur a cheisio dod o hyd i atebion cynaliadwy i’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau.

Yn ôl Allan Wynne Jones, sy’n aelod o Bartneriaeth y Biosffer: “Rydyn ni angen cynrychiolwyr newydd i ymuno â Phartneriaeth Biosffer Dyfi er mwyn iddi adlewyrchu pob agwedd ar fywyd yn yr ardal. Mae ’na gyfleoedd cyffrous yn wynebu’r amgylchedd, y diwylliant a’r economi leol. Ond yr unig ffordd all y Bartneriaeth lwyddo yw os bydd hi’n adlewyrchu pob agwedd ar fywyd yn y dyffryn, gan wneud yn siŵr y bydd y gweithgareddau’n cynnwys pawb.”

Meddai Pete Frost, cynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor Dyn a’r Biosffer UNESCO: “Mae statws blaenllaw dyffryn Dyfi yn rhoi cyfle gwych inni adeiladu economi lewyrchus yn seiliedig ar asedau naturiol ardderchog yr ardal. Hefyd, mae’n rhoi cyfle inni ddiogelu’r diwylliant lleol. Dyma fenter wych i fod yn rhan ohoni – ac rwy’n annog pobl i gynnig eu henwau er mwyn cael eu hethol ar y Bartneriaeth.

“Y prif nod yw sicrhau y caiff ardal dyffryn Dyfi ei chydnabod a’i pharchu’n lleol ac yn rhyngwladol, nid yn unig oherwydd ei harddwch naturiol, ei threftadaeth a’i bywyd gwyllt, ond hefyd oherwydd ymdrech y trigolion i wneud cyfraniad cadarnhaol at fyw’n fwy cynaliadwy.”

Bydd lluniaeth ar gael am 5.30pm yn y Ganolfan Ddigwyddiau Newydd ym Machynlleth (Y Plas), ar gyfer pawb a fydd yn dod i’r cyfarfod. Bydd y Cyfarfod yn dechrau am 6.30pm.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi,Yr Hen Siop, Bryn y Gog, Machynlleth, Powys. Ffôn: 01654 700315 neu ebost: commfirst.broddyfi@powys.gov.uk

Ymholiadau’r wasg: Helen Evans, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, 07717225589 neu 01248 387377.