Addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes

Mae addysg a dysgu ar y cyd yn ffactorau allweddol yn yr agenda datblygu cynaliadwy ac mae gan Fiosffer Dyfi y potensial i fod yn fodel ardderchog ar gyfer darparu’r blaenoriaethau hyn.

Mae Biosffer Dyfi yn cynnig sawl cyfle i’r sector Addysg a Hyfforddiant, yn enwedig ym meysydd yr amgylchedd, diwylliant a datblygu cynaliadwy.

Cynhaliwyd gweithdy i ddarparwyr addysg a hyfforddiant ar 2 Hydref 2008 ym Mhlas Dolguog, Machynlleth.

Mae'r Adroddiad ("Rhannu neges Biosffer Dyfi") yn amlinellu fod yna cefnogaeth eang dros greu rhwydwaith addysgwyr. Man cychwyn i ddisgrifio'r rhwydwaith yw: “modd o alluogi darparwyr addysg a hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol yn yr ardal i weithio gyda’i gilydd i ystyried sut y gall statws Biosffer Dyfi ychwanegu gwerth at addysg a hyfforddiant yma mewn ffyrdd newydd ac arloesol a fydd yn batrwm i eraill”, mae angen i ni weithio i ddiffinio amcanion a buddiannau go iawn darpariaeth addysg a hyfforddiant.

Cynhelir ail gyfarfod o’r rhwydwaith ar Rhagfyr 9fed 2008. Cysylltwch â Helen Howells os hoffech fynychu - H.Howells@ccw.gov.uk