Gweithredu yn lleol

Gofynnodd Menter Mynyddoedd Cambria (CMI) i ecodyfi eu cynorthwyo i gynhyrchu dogfen ‘cynllun gweithredu’. Bydd y ddogfen yn disgrifio beth mae pobl yn ei wneud i wella ansawdd a chynaladwyedd bywyd yn eu cymuned leol. Bydd hefyd yn tynnu sylw at syniadau fydd ganddynt am weithredu pellach.

Efallai y gwelwch fod pobl eraill â’r profiad o wneud yr hyn oedd yn eich meddwl chi, ac y gallwch ddysgu oddi wrthynt. Neu y gallwch wneud pethau mewn modd mwy effeithlon mewn partneriaeth ag eraill.

Bydd hefyd o gymorth i Fenter Mynyddoedd Cambria, Biosffer Dyfi, awdurdodau lleol ac eraill i ddeall beth mae pobl eisiau ei wneud, a sut mae’n bosib eu helpu.

Cael golwg ar y ddrafft cyfredol, a dywedwch wrth ecodyfi am unrhyw weithgareddau neu awgrymiadau perthnasol. Neu defnyddiwch y Fforwm.

web_page_image_640

 biosffer dyfi facebook page Hoffwch ni ar facebook

biosffer dyfi twitter feed Dilynwch ein ffrwd trydar