Grantiau Biosffer Dyfi Biosphere

Detholiadau o geisiadau llwyddiannus, gyda gwerthusiad


Gweler hefyd y Ffurflenni Adroddiad Prosiectau unigol


Coed Heddwch - Anne Hooper (001)

£994

Rwy’n anelu i greu meithrinfa goed i dyfu coed cynhenid lleol ar gyfer amcanion cadwriaethol ac addysgiadol er lles yr amgylchedd ac i annog ymglymiad cymunedol.

    Bu hyn yn llwyddiannus ac yn fuddiol i fywyd gwyllt ar y safle. Bydd  yn fuddiol hefyd mewn lleoliadau eraill os bydd y coed yn cael eu trawsblannu. Ymgeisydd ar gyfer brandio Biosffer ar gynnyrch coetir? Adroddiad (Saesneg)


Ysgol Gynradd Pennal - Emyr Lyn John (002)

£1000

Ail gynllunio gardd yr ysgol i greu safle awyr agored i blant. Lle i gynnal gweithdai ac i astudio creaduriaid ac adar. Trefnu gweithdai i greu blychau adar. Gwella’r llwybr fel y gall gael ei ddefnyddio trwy’r flwyddyn.

    Cynhaliwyd hyn yn llwyddiannus. Mae’n debyg fod yr ysgol yn gwerthfawrogi’r manteision o gael safle y tu allan yn fwy na’r agweddau bioamrywiaeth ar hyn o bryd ac mae cyfle i gefnogi staff i gael plant i ymwneud â natur. Adroddiad (Saesneg)


Fferi ar draws y Ddyfi
- Graham Carnell (003)

£100

Hoffwn ymgeisio am grant fel y gallaf hysbysebu am aelodau o dîm i ymuno mewn ymdrech gymunedol leol i gynllunio, adeiladu a gweithio ar wasanaeth fferi i groesi’r Ddyfi.

    Cynhyrchwyd cyhoeddusrwydd fel y disgwyliwyd, ond nid oes symud ymlaen. Nid oes gan Graham y modd i gynnal yr ymgynghoriadau sydd eu hangen ac ni chafwyd digon o bobl frwdfrydig. Adroddiad (Saesneg)


CAT - Peter Harper (004)

£750 Adroddiad o'r Cynhadledd (crynodeb; Saesneg)

Hoffem gynnal cynhadledd Cymru gyfan ar ddyfodol defnydd tir yng Nghymru mewn economi ‘carbon isel’. Byddai hyn yn cynnwys cynhyrchu cnydau tanwydd, deunyddiau atafaelu, a ‘rheoli’r tir ar gyfer gwasanaethau ecosystem a charbon’  yn ogystal ag ar gyfer cynhyrchu bwyd.

Bu’r gynhadledd yn llwyddiannus trwy ddod â  nifer fawr o bobl ynghyd er mwyn datblygu’r ffocws ar y pwnc hwn, ond nid yw wedi llwyddo i ddenu’r  brif ffrwd strategol ac amaethyddol hyd yn hyn. Adroddiad (Saesneg)


Gwrych hir o fywyd gwyllt naturiol - Ian Mitchell (005)

£206

 ’Rydym wedi plannu coed a gwrychoedd cynhenid ar y safle. Mae hyn yn hybu bioamrywiaeth, yn creu coridorau o fywyd  gwyllt ac yn gwella ansawdd y tirlun. Hoffem ddatblygu gwrych arall o fywyd gwyllt naturiol.

    Bu hyn yn llwyddiannus, ac yn fuddiol iawn i fywyd gwyllt. Adroddiad (Saesneg)


Gwerthu coed tân sydd wedi sychu’n iawn - Peter Bottoms (006)

£1000

Cymorth gyda chostau argraffu a phacio er mwyn dechrau gwerthu coed tân yn Nyffryn Dyfi fel ychwanegiad i fusnes tyfu a gwerthu coed sydd yn gyfan gwbl gynaladwy.

    Defnyddiwyd deunydd pacio y gellir ei ail ddefnyddio sydd yn apelio at  adwerthwyr lleol, ond gohiriwyd ei ddefnyddio tan dymor gwresogi  2008/09 oherwydd oedi annisgwyl yn ymwneud â’r caniatâd cynllunio. Ymgeisydd posib i gael brandio Biosffer ar gynnyrch coetir, pe byddai’n bosib dwyn cynhyrchwyr coed tân eraill ynghyd o gwmpas agenda o safon. Adroddiad (Saesneg)


Prynu odyn golosg - John Owen (007)

£1000

Hoffwn brynu odyn golosg arall er mwyn i’r gwaith yn fwy effeithlon a chynhyrchiol. Mae galw cenedlaethol am olosg wedi’i gynhyrchu’n lleol yn ogystal â galw lleol.

    Aeth popeth fel y cynlluniwyd. Cafwyd cydweithio da o ran rheolaeth coetir gyda’r Grŵp Cadwraeth a Natur newydd (rhif grant  014).Ymgeisydd ar gyfer brandio Biosffer ar gynnyrch coetir? Adroddiad (Saesneg)


Gweithdai Drama  - Tracy Evans (008)

£600 Adroddiad llawn (Saesneg) 4 MB

Trwy weithio gyda Ruth Brocklehurst byddwn yn cynnal diwrnod o Theatr yn y Coed am ddim i hyd at 20 o bobl ifanc rhwng 13 a 18 oed yn Nyffryn Dyfi. Amcan y diwrnod fydd creu safle dros dro i berfformio yn y coed yn ogystal â chreu drama fer amgylcheddol a fydd yn cael ei pherfformio i gynulleidfa gyhoeddus ar derfyn y dydd.

    Profodd hyn i fod yn anodd ei drefnu ac yn anodd dod o hyd i ‘gwsmeriaid’ ymroddgar, ond roedd yn llwyddiant mawr o ran y rhai hynny a gymrodd ran. Yn codi ymwybyddiaeth. Adroddiad (Saesneg)


Clwb Golff Machynlleth  - John Lewis (009)

£1000

Comisiynu archwiliad ac adroddiad ynglŷn â faint o ynni mae’r Clwb yn ei ddefnyddio a’r goblygiadau carbon. Gweithredu’r hyn sy’n cael blaenoriaeth yn yr adroddiad o leiaf, pe byddai’r gyllideb a’r amser yn caniatáu. Mae’n debygol mai rheolaeth gwresogi fydd hyn.

    Cyfrannodd y grant at osod system wresogi solar a system ffotofoltaidd, a ddylai fod yn bwnc trafod da i aelodau ac ymwelwyr yn ogystal ag arbed tanwydd ffosil. Adroddiad (Saesneg)


Machinations - Sarah Williamson (010)

£171.30

Creu gwrych ger y maes parcio i ddenu adar trwy ddarparu cynefin naturiol iddynt.

    Bu hyn yn llwyddiannus ac yn fuddiol i fywyd gwyllt. Adroddiad (Saesneg)


Cylch Meithrin Corris - Jane Rigby (011)

£445.88 Llun 1 (424 KB) Llun 2 (224 KB)

Hoffem greu gardd y tu allan i’r Ysgol Feithrin er mwyn gwarchod natur, annog bywyd gwyllt, cynyddu bioamrywiaeth, arafu newid yn yr hinsawdd trwy dyfu bwyd, lleihau pellter cludo bwyd; byddwn yn cynnal gweithgareddau addysgiadol i gynyddu ymwybyddiaeth gyda’r plant.

    Bu hyn yn llwyddiannus ac yn fuddiol i fywyd gwyllt ac yn addysgiadol i blant a rhieni. Mae rhiant brwd yn debygol o barhau i ddatblygu’r adnoddau hyn. Adroddiad (Saesneg)


Blychau Nythu - Lesley Fletcher (012)

£248.30 Adroddiad llawn (Saesneg)

Rydym yn berchen ar 6 acer o goetir derw aeddfed sydd yn cael ei reoli ar gyfer bywyd gwyllt. Hoffem newid yr hen flychau nythu sydd bellach wedi pydru gan roi rhai newydd yn eu lle.

    Bu hyn yn llwyddiannus ac yn fuddiol i fywyd gwyllt ac yn debygol o fod yn fwy buddiol yn y dyfodol. Adroddiad (Saesneg)


Sefydliad Tir Gwyllt Cymru  - Stanley Owen (013)

£1000 Adroddiad llawn (Saesneg)

Cyflogi codwr arian proffesiynol am gyfnod penodol i ddod o hyd i gyllid i ariannu swyddog i weithio ar ein prosiectau.

    Ysgrifennwyd yr adroddiad ac fe grëwyd gwefan. Adroddiad (Saesneg)


Grŵp Gwirfoddol Natur a Chadwraeth - Zena Wilmot (014)

£1000 Adroddiad llawn (Saesneg) pdf 4.5 MB

Y nod yw creu grŵp gwirfoddol a fydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cadwriaethol a phrosiectau yn ardal Gwarchodfa Biosffer Dyfi. Bydd hyn yn annog pobl a grwpiau lleol i warchod a gwerthfawrogi  eu hardal. Bydd y grant yn gymorth i ffurfio’r grŵp, i gael yswiriant ac offer a hefyd i gynnal y ddau ddiwrnod cyntaf o gadwraeth natur gwirfoddol yn ardal Dyffryn Dyfi.

    Llwyddodd y dechreuwr i gynnal dau ddiwrnod o gadwraeth a ffurfio grŵp o wirfoddolwyr. Mae angen datrys rhai materion er mwyn sicrhau dyfodol, e.e. a ddylid ac a oes modd talu am unrhyw swyddogaeth. O bosib yn adnodd gwerthfawr iawn i Fiosffer Dyfi a ffurfiwyd fel ymateb iddi. Adroddiad (Saesneg)


Ysgol Gynradd Machynlleth - Gwenfair Glyn (015)

£1000

Creu Gwarchodfa Natur ar dir yr ysgol ger y maes parcio. Creu llyn ar gyfer brogaod a chreu gardd lle gall y plant astudio gwahanol anifeiliaid ac adar. Byddant felly’n dysgu am y pwysigrwydd o warchod yr amgylchedd.

Bu hyn yn llwyddiannus ac yn fuddiol i fywyd gwyllt a hefyd yn addysgiadol fuddiol i blant a rhieni. Mae athro brwd yn debygol o barhau i ddatblygu a defnyddio’r adnoddau hyn gyda’r Pwyllgor Eco’r Ysgol. Adroddiad (Saesneg)


RSPB Ynys-hir - Dick Squires (016)

£1000 Llun 1.2 MB

Clirio 5 cyfer o rododendron o goetir derw ym mhentrefi Ffwrnais ac Eglwysfach.

    Bu hyn yn llwyddiannus ac yn fuddiol i fywyd gwyllt. Adroddiad (Saesneg)


Dyfi Raptor Experience - Luce Green and Barry McDonald (018)

£1000

Canolfan addysgiadol yn cael ei chynnal gan fy mhartner a minnau, yn hybu ymwybyddiaeth mewn adar ysglyfaethus ac amgylcheddau, yn y ffordd y maent yn byw trwy gadwraeth a gweithgareddau cysylltiedig, mewn adferiad a newid yn yr hinsawdd. Bydd yr arian yn cael ei wario ar greu adardai ar gyfer adar ysglyfaethus sydd wedi’u hanafu neu sy’n amddifad. Bydd hyn yn gymorth i wella adnoddau i gael statws adferiad adar ysglyfaethus. Gwefan – i hyrwyddo gweithgareddau a deunydd addysgiadol. Byrddau picnic a choed – fel bo’r plant /ymwelwyr yn cael mwy o fwynhad.

    Bu hyn yn llwyddiannus ac yn fuddiol i fywyd gwyllt a bydd yn parhau i fod yn addysgiadol fuddiol i ymwelwyr. Adroddiad (Saesneg)


Hyfforddiant Arweinydd Coedwig lefel 3  - Ruth Brocklehurst (020)

£865

Hoffem wella'r hyn yr ydym yn ei gynnig yn ein prosiect peilot. Hyfforddi menywod i gyflawni Gwobr Arweinydd 3 fel y gallant fynd a grwpiau Ti a Fi i’r coedlannau’n hyderus, a chynnig sesiynau i grwpiau Ar ôl Ysgol a grwpiau ieuenctid. Bydd yr arian yn mynd tuag at gostau hyfforddi hyd at 5 menyw i gael cymhwyster Arweinydd Ysgol Goedwig Lefel 3 i arwain grwpiau o blant a phobl fregus yn yr awyr agored.

    Bu hyn yn llwyddiannus. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau Ysgol Goedwig am ddim i blant yn ystod gwyliau haf 2008 gan ddwy o’r rhai dan hyfforddiant ac fe  lwyddodd Henni Tremlett (rhif grant 025) i wneud ei phrosiect ysgol goed o ganlyniad i’r hyfforddiant. Adroddiad (Saesneg)


Treftadaeth Llandre Heritage - Roger Haggar (023)

£1000

Er mwyn diogelu’r rhywogaethau sydd yn y gweirdiroedd a bioamrywiaeth y coetiroedd, mae angen llunio map cynefin sengl o’r ardal. Bydd yn cynnwys:

a)    Canllawiau ar gyfer monitro bywyd gwyllt rheolaidd a’r newidiadau tymor hir yn y cynefinoedd.

b)    Ymdrechion i gynyddu bioamrywiaeth neu wella math o gynefin megis plannu coed a gosod blychau nythu.

c)    Ardaloedd o weithredu cymunedol gyda bioamrywiaeth Llandre megis digwyddiadau, dyddiau gwaith ac addysg.

Bu hyn yn llwyddiannus. Creuwyd Cynllun Rheoli. Grŵp gweithgar. Adroddiad (Saesneg)


Ymarferydd Ysgol Goedwig  - Henni Tremlett (025)

£750 Llun 1 (2.2 MB) Llun 2 (1.8 MB)

Yn fuan byddaf yn Arweinydd Ysgol Goedwig a hoffwn fedru cynnal Ysgol Goedwig fechan reolaidd yng Nghorris. Bydd yr arian yn mynd tuag at fy llafur, at gostau sefydlu ac at offer megis dillad.

    Bu gweithgareddau’r Ysgol Goedwig i blant Corris ac Aberllefenni yn llwyddiant. Adroddiad (Saesneg)


Grŵp Ynni Angell  - Peter Matthews (028)

£1000

Rydym yn gobeithio defnyddio llif y dŵr o gronfa uwchlaw’r dyffryn ger Aberangell i gynhyrchu cyflenwad trydan i chwech o deuluoedd sydd, ar hyn o bryd yn defnyddio generaduron disel.

    Dengys yr adroddiad y dylai’r prosiect yma fod yn ddichonadwy. Adroddiad (Saesneg)


Prosiect Cymunedol Plant Machynlleth - Emma Davies (031)

£388.64

Gardd natur, blychau nythu ayb.

    Bu hyn yn llwyddiannus, yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer plant yn ogystal â gwella cynefinoedd. Fe’i gwerthfawrogwyd gan rieni yn ogystal â’r plant. Adroddiad (Saesneg)


Gerddi Ynyslas - Lynne Dickens (039)

£1000 Addroddiad llawn (Saesneg)

Byddwn yn creu ardal bywyd gwyllt yn yr ardd gan ddatblygu cynefinoedd bio amrywiol. Rydym yn bwriadu:

a)    Plygu gwrych brodorol a fydd yn annog adar i fwydo a nythu ayb. Llun 72 KB

b)    Datblygu pwll bas.

c)    Plannu coed brodorol. Llun 76 KB

d)    Dylunio a chreu border llysieuol a fydd yn denu gwenyn, gloÿnnod ayb.   

Bu hyn yn llwyddiannus ac yn fuddiol i fywyd gwyllt. Cydweithio da gyda’r rhai a gymrodd ran yn y cwrs bywyd gwyllt a thyfu llysiau a reolwyd gan Mentro Allan. Adroddiad (Saesneg)


Gwarchodfa Natur Cae Poeth - Alun Thomas (040)

£1000

Creu gwarchodfa natur sydd yn cynnwys llyn. Gwahodd y gymuned leol, pobl llai abl, pobl sydd ag anawsterau dysgu a phlant i ymweld, dysgu a mwynhau’r rhyddid a’r awyrgylch.

Mae’r warchodfa natur yn dal yn y broses o ddatblygu ond mae’n debygol o fod yn adnodd gwerthfawr gydag amser. Byddai cefnogaeth i ddatblygu’n cael ei werthfawrogi ac yn ddefnyddiol. Adroddiad (Saesneg)


Grŵp Ynni - Michele Leslie (041)

£450

Llunio arolwg ynni yn Nhaliesin trwy ymweld â chartrefi pobl.

    Cafodd arolwg ei gynnal ond mae mwy o gartrefi eto i ymweld â hwy. Nid yw’r grŵp yn gryf iawn ar hyn o bryd, er bod cryn gefnogaeth yn lleol, ac mae yma botensial i fod yn fwy effeithiol. Yn gweithio ar y cyd â phrosiect rhif 044. Adroddiad (Saesneg)


InSynch Business Services Ltd - Eddy Webb (042)

£995

Cwrs undydd sy’n canolbwyntio ar weithio tuag at swyddfa ddi -bapur, lleihau costau argraffu, arbed ynni cyfrifiadurol, cynadleddau fideo a thros y ffôn, gweithio oddi cartref i leihau costau cludiant a chostau rhedeg ayb.

    Cynhaliwyd y cwrs, ac fe’i gwerthfawrogwyd gan nifer fechan o gyfranogwyr. Adroddiad (Saesneg)

 

Ecodyfi - Gwenno Davies (044)

£162

Cynorthwyo prosiect Ôl Troed Dyfi, sy’n anelu at helpu pobl i wneud penderfyniadau mwy cynaladwy yn eu ffordd o fyw. Dengys yr ôl troed ecolegol sut i fesur effaith gwariant categorïau amrywiol.

    Cynhaliwyd cyfweliadau /astudiaethau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn, ond nid oes llawer yn digwydd ar hyn o bryd gan eu bod yn disgwyl canlyniad cais i ariannu amser staff. Adroddiad (Saesneg)


Wedi tynnu’n ôl:

Polytunnel - Alex Randall (032)

£800

Rydym am sefydlu’r isadeiledd sydd ei angen i gynnal cwrs a fydd yn helpu pobl i ddysgu sut i dyfu eu bwyd eu hunain a chreu gerddi bywyd gwyllt.

    Fe gynhaliwyd y cwrs er gwaethaf absenoldeb y ‘polytunnel’, felly fe fu o fudd i fywyd gwyllt. Mynnodd yr adran gynllunio bod yno gyfleusterau parcio ceir pan ddeallwyd am y cwrs ac fe arweiniodd hynny at oedi hir iawn.


Gwerthuso gan Andy Rowland; Medi 2008