Biosffer yw ardal lle mae pobl yn gweithio i sicrhau cydbwysedd rhwng gwarchod bioamrywioldeb a gwneud defnydd cynaliadwy arno.
Fe'u cydnabyddir ar lefel ryngwladol o fewn fframwaith Rhaglen UNESCO ar Ddyn a'r Biosffer (MAB).

Fe'u henwebir gan lywodraethau gwladol ac y mae'n rhaid iddynt gyflawni tri diben sylfaenol:
Diben cadwraethol - gwarchod adnoddau genetig, rhywogaethau, ecosystemau a thirluniau;
Diben datblygu - meithrin datblygu economaidd a dynol cynaliadwy;
Diben logistaidd - cefnogi ymchwil, monitro, addysg a chyfnewid gwybodaeth ynglyn â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang yn ymwneud â chadwraeth a datblygu.
Gweler mwy yn Atodiad 1 o Ddogfen Ymgynghorol y Biosffer "Beth yw Gwarchodfeydd Biosffer?"
Ym Mawrth 2008, cyhoeddodd DEFRA adroddiad o ymchwil i “Botensial Gwarchodfeydd Biosffer i gyrraedd amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y DU”. Mae’n dyfynnu o Gynllun Gweithredu Madrid 2008, gan ddiffinio ‘Gwarchodfeydd’ Biosffer fel “safleoedd o ragoriaeth i feithrin pobl a natur i fyw mewn cytgord ar gyfer datblygu cynaliadwy trwy gyfranogi, gwybodaeth, lles, gwerthoedd diwylliannol a gallu’r gymdeithas i ymgodymu â newid, a thrwy hynny gyfrannu tuag at [Amcanion Datblygu ar gyfer y Mileniwm]”.
© 2007 Dyfi Biosphere