Telerau ac amodau defnyddio'r safle gwe hwn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am delerau ac amodau wrth ddefnyddio'r safle hwn, a manylion am ein polisi cysylltiadau.

Telerau ac amodau defnyddio'r safle

Partneriaeth Ardal Biosffer Dyfi sy'n gyfrifol am y safle, yn unol â'r Telerau ac Amodau isod:

1. Mae defnyddio'r safle hwn gyfystyr â derbyn y Telerau a'r Amodau hyn oddi ar ddyddiad rydych yn defnyddio'r safle am y tro cyntaf.

2. Mae Partneriaeth Ardal Biosffer Dyfi yn cadw pob hawl i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg trwy arddangos y newidiadau ar-lein. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn ar ôl arddangos unrhyw newidiadau, rydych yn derbyn y cytundeb diwygiedig hwn.

3. Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r safle hwn at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn dull nad yw'n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar neu'n atal unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau'r safle hwn.

4. Darperir y safle hwn, a'r wybodaeth, yr enwau, y lluniau a'r logos ynghylch neu'n ymwneud â Ardal Biosffer Dyfi "fel ag y mae" heb unrhyw gynrychiolaeth neu ardystiad a heb unrhyw warant o unrhyw fath, p'un a'i mynegir neu'i awgrymir. Ni fydd Cymunedau yn Gyntaf yn atebol dros golled neu ddifrod ar unrhyw gyfrif, yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod canlyniadol neu anuniongyrchol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o ddefnyddio neu colli'r gallu i ddefnyddio, data neu elw sy'n deillio o neu sy'n gysylltiedig â defnyddio'r safle, boed mewn contract neu esgeulustod.

5. Nid yw Partneriaeth Ardal Biosffer Dyfi yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd yn y safle hwn yn rhydd heb ymyrraeth neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, ac y bydd y safle hwn a'r gwasanaethydd sy'n sicrhau ei fod ar gael, yn rhydd rhag firysau a bygiau, neu'n cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb na dibynadwyedd llawn y deunyddiau.

6. Cyfyngiadau Hawlfraint:

  • Gwaherddir yn llwyr unrhyw ddefnydd masnachol neu gyhoeddiad o bob eitem neu unrhyw eitem sy'n ymddangos ar y safle, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Bartneriaeth Ardal Biosffer Dyfi. Ni ddylid dehongli unrhyw beth sy'n gynwysedig yn y safle hwn fel caniatâd gan PAVO i ddefnyddio unrhyw eitem sy'n ymddangos.
  • Gellir copïo dogfennau ar gyfer defnydd personol yn unig, ar yr amod fod yr hawlfraint a gwybodaeth ynglyn â'r ffynhonnell hefyd yn cael eu copïo, ac nad yw unrhyw ddiwygiadau yn cael eu gwneud, a bod y ddogfen gyfan yn cael ei chopïo. Er hynny, mae rhai dogfennau a lluniau wedi cael eu cyhoeddi ar y safle hwn gyda chaniatâd perchnogion yr hawlfraint berthnasol (nad ydynt yn aelod o Bartneriaeth Ardal Biosffer Dyfi). Cedwir pob hawl ar y dogfennau hyn, ac mae'n rhaid gofyn am ganiatâd perchnogion yr hawlfraint i'w copïo (gwelir y ffynonellau o fewn y dogfennau/ffotograffau hyn).

7. Nid yw Bartneriaeth Ardal Biosffer Dyfi yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys Safleoedd Gwe allanol.

8. Dylid trin unrhyw gyfathrebiad neu unrhyw ddeunydd byddwch yn trosglwyddo, neu yn anfon ymlaen at eraill, neu unrhyw feysydd cyhoeddus ar y safle gan gynnwys unrhyw ddata, cwestiynau, sylwadau, awgrymiadau, neu'r tebyg, yn wybodaeth gyhoeddus a thu allan i eiddo'r corff.

9. Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y Telerau ac Amodau hyn, a rheolau a/neu delerau defnydd penodol sy'n ymddangos ar y safle hwn mewn perthynas â deunyddiau penodol, yr olaf fydd yn llywyddu.

10. Rheolir a dehonglir y telerau ac amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o dan y telerau ac amodau hyn yn agored i awdurdod unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

11. Os nad yw'r Telerau ac Amodau hyn yn cael eu derbyn yn llawn, bydd yn rhaid terfynu defnydd o'r safle hwn ar unwaith.

Polisi cysylltiadau

Os hoffech gysylltiad â'n safle ni, ac yn credu fod hyn yn berthnasol, a safle nad yw'n fasnachol, neu'n safle o ddiddordeb ymarferol i'r cymunedau a'r unigolion cysylltiedig, a fyddech gystal ag anfon disgrifiad byr i'w ystyried at: delyth@biosfferdyfi.org.uk

Nid oes unrhyw wrthwynebiad i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r wybodaeth sy'n gynwysedig ar ein safle ni. Os byddwch yn cysylltu â ni, a fyddech gystal â rhoi gwybod inni'r un ffordd. Bydd hyn yn golygu ein bod yn gallu rheoli unrhyw gysylltiadau sy'n torri yn y dyfodol.